Lansiwyd rhaglen arloesol ym Mhrifysgol De Cymru a fydd yn galluogi 35 o’r graddedigion gwasanaethau ariannol gorau i aros neu ddod yn ôl i Gymru i fagu profiad gyda’r cyflogwyr gorau – yn ogystal â gweithio am radd Meistr.
Ymunodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, â threfnwyr Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru a’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan, i groesawu aelodau newydd un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.
Yn cael ei rheoli gan Fforwm Gwasanaethau Ariannol Cymru a phartneriaid yn y diwydiant, mae’r Rhaglen yn bodoli i wneud yn siŵr fod Cymru’n cadw ei graddedigion gorau i gefnogi sector gwasanaethau ariannol Cymru gan greu cronfa o dalent elite a fydd, gobeithio, yn cefnogi twf cwmnïau cynhenid ac yn denu rhagor o fusnesu i sefydlu presenoldeb yng Nghymru.

Y Gweinidog Mark Drakeford gyda threfnwyr a graddedigion o Raglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru.
Meddai Sandra Busby, rheolwr gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Ariannol Cymru:
“Diolch i gefnogaeth arian Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a’n sefydliadau partner, rydyn ni wedi creu rhaglen a fydd yn helpu i sicrhau y bydd graddedigion ffres, uchelgeisiol, yn cael pob cyfle i wireddu’r yrfa sy’n cynnig ei hunan yng Nghymru.
”Rydyn ni’n sicr y bydd pob un a fydd yn ymuno â ni heddiw yn cael profiadau unigryw a gwerthfawr ac, fel pob un o’r graddedigion o’u blaenau, y byddan nhw, ar ddiwedd y rhaglen, yn bobl proffesiynol cyflawn y bydd gofyn am eu doniau ac a fydd yn gallu anadlu anadl einioes i’r sector werthfawr hon”.
Ers ei lansio gyntaf yn 2013, mae’r rhaglen wedi recriwtio a datblygu mwy na 70 o raddedigion, 95 y cant wedi llwyddo i gael swyddi parhaol gyda’r cwmnïau sy’n cymryd rhan. Lansiodd Llywodraeth Cymru y fersiwn gyntaf yn 2013 fel rhaglen beilot ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
“Cafodd cyfanswm o £2.4 miliwn o arian Ewropeaidd ei fuddsodd yn y rhaglen hon, sy’n galluogi mwy o raddedigion i ddilyn gyrfaoedd proffesiynol yma yng Nghymru ac mae hefyd yn helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y sector.
“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol diwydiant allweddol. Mae’n galonogol iawn clywed hanesion am lwyddiant graddedigion sydd eisoes yn gwneud eu marc yn y sector gwasanaethau ariannol ac rwy’n dymuno llwyddiant pellach yn y blynyddoedd i ddod i’r rhaglen ac i’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan”.
Dros gyfnod o ddwy flynedd y rhaglen, bydd pob un o’r graddedigion yn cael cyfle i gael golwg unigryw ar y diwydiant wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy strwythur o wahanol leoliadau yn y gweithle ac, yr un pryd, gael hyfforddiant academaidd pellach. Gall pob un ddisgwyl cael profiad yn y meysydd allweddol y mae cyflogwyr yn y sector yn galw amdano, gan gynnwys: risg, cydymffurfiad, arloesedd, arweinyddiaeth a rheolaeth a chyllid, ac MSc wrth raddio wedi’i theilwra mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol oddi wrth Brifysgol De Cymru.
Mae hyn yn cynnwys Briony Davies o Bontypridd, a oedd wedi graddio o Brifysgol Caerdydd cyn penderfynu ymgeisio am le ar Raglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru. Meddai Briony, wrth siarad yn y digwyddiad:
“Mae gen i ddiddordeb ers erioed mewn gweithio yn y sector ariannol ond, fel un a raddiodd mewn Daearyddiaeth Ddynol, roeddwn i ofn y byddai fy niffyg profiad yn y sector yn fy erbyn pe byddwn i’n ymgeisio am radd Meistr mewn cyllid neu fusnes. Yna, clywais am y rhaglen a chanfod ei bod ar agor i raddedigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau gradd.
“Yma, yng Nghymru, y mae fy nghartref ac, fel siaradwr Cymraeg, ryw’n dyheu am allu defnyddio’r iaith gydol fy ngyrfa. Erbyn hyn, rwy’n gallu magu profiad a gwybodaeth wrth weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau ariannol gorau yng Nghymru ac, yr un pryd, astudio am radd Meistr wedi’i hariannu’n llawn.”
Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn cynnwys rhai o sefydliadau ariannol mwyaf Cymru, yn ogystal â llawer o fusnesau bach a chanolig cynhenid, uchelgeisiol, gan gynnwys: Admiral Group, Atradius, Composite Legal Expenses, DS Smith, Banc Datblygu Cymru, Vauxhall Finance UK plc, Hodge Bank, Legal & General Investment Management, LexisNexis® Risk Solutions, Optimum Credit Ltd, Cymdeithas Adeiladau’r Principality, a V12 Retail Finance.
Roedd Romeo Embolo hefyd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd gan ennill nifer o gymwysterau mewn Systemau Diogeledd Gwybodaeth a phreifatrwydd gwybodaeth. Wrth siarad yn y digwyddiad, meddai Mr Embolo:
“Mae’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn amrywiol iawn ac nid yw’r gyrfaoedd y mae’n ei gynnig yn cael eu gyfyngu i raddedigion cyllid ac economeg. Roedd y rhaglen yn fy nenu oherwydd ei bod yn rhoi syniad o’r holl lwybrau gyrfa sy’n bodoli yn y sector. Er enghraifft, mae diogeledd seibr yn hanfodol yn y sector hon ac, fel un â gradd mewn technoleg, fe fydda i’n gweitho i ddiogelu data personol pobl.”
Darganfyddwch fwy am Raglen Raddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru: YMA