Canfod graddedigion gyda’r “newyn, y dalent a’r hyder i herio ac i holi” – pam fod mwy o gwmnïau nac erioed wedi ymuno â Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru.
Llundain, yn aml, yw dewis cyntaf y rhai sy’n gobeithio cychwyn ar yrfa yn y byd ariannol. Ond, mae consortiwm o fusnesau blaengar o Gymru yn buddsoddi mewn rhaglen ariannol arbennig i raddedigion i roi dyfodol na ellir ei wrthod i dalent ariannol yng Nghymru.
Fforwm Gwasanaethau Ariannol Cymru a’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan sydd wedi dylunio ac sy’n darparu’r rhaglen. Ei diben yw magu cronfa o raddedigion talentog a ddaw yn y bobl broffesiynol mwyaf blaenllaw’r diwydiant. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy annog graddedigion i sylweddoli’r manteision y gall gyrfa yn sector ariannol Cymru ei gynnig.
Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd graddedigion yn cael cyfle i gael golwg unigryw ar y diwydiant wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy strwythur o wahanol leoliadau yn y gweithle ac, yr un pryd, gael hyfforddiant academaidd pellach. Y canlyniad fydd ffrwd o dalent parod ar gyfer swyddi gyda phrofiad amlwg mewn meysydd megis risg, cydymffurfiad, arloesedd, rheoli cyfrifon a chyllid. Ar ben hyn, bydd gan y graddedigion MSc wedi’i deilwra mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol o Brifysgol De Cymru.
Meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: “Mae’r gwasanaethau ariannol yn sector sy’n gyfrifol am greu llawer o swyddi ac am gynyddu Gwerth Ychwanegol Gros yn economi Cymru. Yn ogystal â sicrhau bod busnesau Cymru’n gallu cael y graddedigion o’r safon y maen nhw ei angen, gall llwyddiannau rhaglenni fel Rhaglen Graddedigion Ariannol Cymru fod yn allweddol mewn denu busnesau newydd i sylweddoli gwerth sefydlu presenoldeb yma”.
Fis Medi eleni, bydd trydedd fersiwn y Cynllun dwy flynedd yn cael ei lansio ac eisoes mae deuddeg cyflogwr wedi llofnodi i gymryd rhan yn y rhaglen flaengar. Hyd yma, mae’r rhaglen wedi recriwtio a datblygu 70 o raddedigion, 90 y cant wedi llwyddo i gael swyddi parhaol gyda’r cwmnïau sy’n cymryd rhan. Lansiodd Llywodraeth Cymru’r fersiwn gyntaf yn 2013 fel rhaglen beilot ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Meddai Sandra Busby, rheolwr gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Ariannol Cymru, sy’n rheoli’r Rhaglen: “Mae gwasanaethau ariannol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Gan fod llawer o’r busnesau sy’n arwain y diwydiant yn aelodau o Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, rydyn ni’n deall eu bod yn dibynnu ar ddenu a chadw graddedigion gyda’r gorau sydd ar gael i allu tyfu yn y dyfodol.
“Mae’r Rhaglen Graddedigion yn brawf mai darparu llwybr deniadol o yrfaoedd da yw’r allwedd i fagu’r gronfa o dalent o’r radd flaenaf y mae’r diwydiant ei angen. Mae Cymru ar y blaen yn y sector mewn llenwi’r bwlch sgiliau sy’n gyffredin drwy wledydd Prydain ac mae’n dangos nad Llundain yw’r unig le sy’n cynnig gyrfa yn y byd ariannol”.
Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn cynnwys rhai o sefydliadau ariannol mwyaf Cymru, yn ogystal â llawer o fusnesau bach a chanolig cynhenid, uchelgeisiol, gan gynnwys: Admiral Group, Atradius, Composite Legal Expenses, DS Smith, Cyllid Cymru, GM Financial, Hodge Bank, Legal & General Investment Management, LexisNexis® Risk Solutions, Optimum Credit Ltd, Cymdeithas Adeiladau’r Principality, a V12 Retail Finance. Yma, maen nhw’n dweud pam eu bod yn cymryd rhan yn y Cynllun Graddedigion.
Admiral Group:
Yn aelod o’r consortiwm o’r cychwyn cyntaf, mae’r Grŵp Admiral wedi recriwtio saith o raddedigion ers lansio’r rhaglen gyntaf yn 2013.
Meddai Rheolwr Rhaglen Graddedigion Grŵp Admiral, Leigh Manley: “Daw graddedigion bob amser â safbwynt newydd ar y ffordd rydyn ni’n gweithredu ac yn aml mae ganddyn nhw’r brwdfrydedd a’r egni sy’n eu galluogi i herio’r hyn rydyn ni’n ei wneud a’r ffordd rydyn ni’n gwneud hynny. Rydyn ni wrth ein bodd gyda hynny yn Admiral.
“Mae’r profiad y mae graddedigion yn ei gael drwy ymweld â sefydliadau sydd â chynnyrch, diwylliant ac agweddau gwahanol yn eu galluogi nhw i asesu eu sgiliau a dod i ddeall pa waith sydd fwyaf addas iddyn nhw”.
Atradius:
Mae’r yswiriwr credyd masnach, Atradius, hefyd wedi chwarae rhan allweddol yng nghynllun peilot cyntaf y rhaglen graddedigion. Hyd yma, mae’r cwmni wedi recriwtio a chadw deg o raddedigion ym mhencadlys DU’r cwmni ym Mae Caerdydd.
Meddai Anne Middleton, Pennaeth Adnoddau Dynol yn Atradius: “Mae graddedigion, yn enwedig, yn dod â syniadau newydd o academia, megis pwysigrwydd cynyddol, a pharhaol, technoleg newydd yn ein sector. Ac, yn hanfodol, mae ganddyn nhw’r hyder i holi a herio’r ymarferion gwaith presennol.
“Mae ein cydweithwyr profiadol yn rhoi croeso mawr i syniadau newydd newydd-ddyfodiaid disglair. Mae ein sefydliad yn ffynnu ar rannu profiadau a gwybodaeth sydd wedi cronni dros flynyddoedd lawer, yn ogystal ag ar ddysg a chwestiynau ein graddedigion”.
Composite Legal Expenses:
Ar ôl ei lansio ym 1996, mae Composite Legal Expenses wedi sefydlu ei hunan fel un o ddarparwyr blaenaf y DU ym meysydd yswiriant treuliau cyfreithiol, cyngor cyfreithiol a gwasanaeth trin hawliadau.
Meddai Tim Mullin, Pennaeth Datblygu Cynnyrch yn Composite Legal Expenses: “Mae’r rhaglen wedi’n helpu i gynnal swyddfa nwyfus ac amrywiol gyda phob un o’r graddedigion yn cyfrannu ei bersonoliaeth a’i sgiliau unigryw ei hunan. Mae hefyd wedi’n galluogi i gysylltu, ac i ddysgu oddi wrth, ochr academaidd y rhaglen.
“Yn benodol, mae’r cynllun yn cynnig cyfle unigryw i raddedigion fagu profiad gyda hyd at bedwar gwahanol gyflogwr dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n amhrisiadwy pan ddaw’n bryd ymgeisio am swyddi parhaol yn y sector gwasanaethau ariannol. O ganlyniad, daw graddedigion o’r gweithle’n raddol, gan symud o addysg llawn amser drwy raglen arweiniol academaidd i swyddi llawn amser”.
Cymdeithas Adeiladu’r Principality:
Yn un o gyflogwyr cyntaf y rhaglen, mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi recriwtio a chadw pump o raddedigion drwy’r cynllun hyd yma.
Meddai Mike Fenton, Uwch Reolwr Datblygu Arweinyddiaeth a Thalent y Gymdeithas: “Mae egni, brwdfrydedd a’r awydd rydyn ni’n ei weld yn y graddedigion sy’n dod atom ni yn dal i fy rhyfeddu. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl ifanc fagu profiad mewn gwasanaethau ariannol mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau mewn awyrgylch fusnes sy’n newid yn gyflym.
“Rydyn ni’n gweld y rhaglen fel rhan allweddol o’n cynlluniau i gynhyrchu talent – ac mae’r graddedigion wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyl o ran ansawdd y gwaith y maen nhw’n ei gynhyrchu ac o ran eu hagwedd bositif. Dyw hi ddim yn rhyfeddod, felly, ein bod wedi cadw pump o raddedigion yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf a’n bod yn falch o fod yn aelod o’r cynllun o’r cychwyn cyntaf.
“Mae’r cynllun hefyd yn ffordd ardderchog o rannu ymarfer gorau ac o feithrin perthynasau gyda busnesau o’r un meddylfryd”.
Banc Datblygu Cymru:
Vauxhall Finance UK plc:
Mae Cyllid Vauxhall yn arddull masnach y GMAC UK plc. Rydym yn gwmni cyllid caeth ac yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr General Motors. Caiff ein llwyddiant ei yrru gan berthynas cryf a pharhaol gydag ein masnachwyr a’r cwsmeriaid rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn anelu am ragoriaeth ym mhob achlysur: fel cyflogwr, fel darparwr gwasanaethau ac fel partner. Felly rydym wedi adeiladu enw arbennig o dda yn y byd o ddatrysiadau cyllid ar gyfer y diwydiant modurol.
Hodge Bank:
Ers ymuno a’r rhaglen yn 2015, mae Banc Hodge, o Gaerdydd, wedi cyflogi tri o raddedigion. Meddai David Landen, Cyfarwyddwr Cyllid Banc Hodge: “Mae’r sector ariannol yng Nghymru’n ffynnu gyda chyflogwyr mawr o Gymru a thu hwnt yn cynnal miloedd o swyddi yn y rhanbarth. Fel yr unig fanc â’i bencadlys yng Nghymru, mae’r rhaglen hon yn allweddol i ganfod talent ar gyfer y dyfodol ac yn cefnogi ein hymrwymiad i gadw a datblygu graddedigion lleol.
“Mae graddedigion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn elwa o brofiad mewn amrywiaeth o sectorau a busnesau ledled Cymru. Mae hyn yn helpu i fagu hyder, gwybodaeth drylwyr ar draws amrywiaeth o wahanol sefydliadau ac, yn bwysicaf, sgiliau deniadol y gellir eu trosglwyddo i ddarpar gyflogwyr.”
Legal & General Investment Management:
Mae’r cawr yn y byd gwasanaethau ariannol wedi ymuno â’r cynllun am y tro cyntaf. O ganlyniad, bydd cyfle i’r criw o raddedigion 2017 gael profiad o weithio fel rhan o’r 1,500 o weithlu sydd gan Legal and General yng Nghaerdydd.
Meddai John Craven, Pennaeth Gweithrediadau Ariannol yn Legal & General Investment Management: “Mae’r sector yn dal i dyfu yma yng Nghymru ac rwy’n cael fy nghyffroi gan yr amrywiaeth cynyddol sy’n cael ei gynnig i’r rhai sydd wedi dewis dilyn gyrfa yma.
“Mae sawl mantais i’r cynllun, nid yn lleiaf y cyfle i weithio gyda’r graddedigion brwdfrydig a disglair, sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn y rhaglen. Ar ben hynny, bydd y rhaglen yn galluogi Legal and General i chwarae ei ran mewn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru.”
DS Smith:
Meddai Clark Grant, Cyfarwyddwr Global Shared Services ar gyfer DS Smith: “Wrth i ni gychwyn ar daith o ddatblygu Sefydliad Gwasanaethau Byd-eang ar y Cyd i gefnogi mwy na 26,000 o staff mewn 37 o wledydd, mae cyflwyno a datblygu’r dalent orau yn rhan hanfodol o lwyddiant y rhaglen honno.
“Rydyn ni wedi cael llwyddiant o’r blaen gyda lleoliadau ‘intern’ yn ein Canolfan Ariannol ac Adnoddau Dynol yng Nghaerffili a phan glywais i am y rhaglen raddedigion hon roeddwn i’n hynod awyddus i ddod yn aelod. Gall graddedigion ddod â chyfoeth o syniadau newydd cyffrous a heriol i unrhyw fusnes ac, wrth i’m busnes ymdrechu i ddatblygu gwasanaeth o safon fyd-eang, rwy’n credu y daw graddedigion i chwarae rhan fawr yn y datblygiad hwnnw. Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y genhedlaeth nesaf o dalent a gorau po gyntaf y gallwn gael gafael ar y sgiliau”.
LexisNexis® Risk Solutions:
Hefyd yn ymuno â’r rhaglen am y tro cyntaf mae LexisNexis® Risk Solutions, y darparydd datrysiad gwybodaeth byd-eang sy’n rhan o Grŵp RELX. Mae’r cwmni rhyngwladol yn helpu sefydliadau mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol, i werthuso a rheoli risg perthynasau. Sefydlodd ei bresenoldeb cyntaf yng Nghymru yn 2014 ar ôl cymryd drosodd Tracemart Ltd o Gaerdydd.
Meddai Cherim Trew, Rheolwr Risg a Chydymffurfiad LexisNexis® Risk Solutions: “Wrth i ni gymryd rhan yn y rhaglen, bydd cyfle i raddedigion gael profiad o fusnes byd-eang, sy’n rhan o sefydliad FTSE 100 [RELX Group], gyda chyfleoedd pellach i ddatblygu gyrfa fyd-eang ym marchnad datrysiadau technoleg a gwybodaeth.
“Drwy gymryd rhan yn y rhaglen, rydyn ni’n gobeithio datblygu’r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol a fydd yn arwain at godi ymwybyddiaeth o’n brand wrth i ni ddod yn gyflogwr o ddewis i raddedigion talentog o bob disgyblaeth.”
Optimum Credit Ltd:
Mae Optimum Credit, darparwr morgeisi ail bridiant o Gaerdydd, wedi recriwtio dau o raddedigion ers ymuno â’r rhaglen fis Medi 2015. Meddai Helen Hartshorn, y Pennaeth Adnoddau Dynol: “Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i dyfu yn y dyfodol ac, yn ein barn ni, mae’r rhaglen hon yn ffynhonnell wych o staff ar gyfer y cwmni yn y dyfodol.
“Rydyn ni hefyd o’r farn fod yn rhaglen yn amhrisiadwy i ddatblygu cronfa o dalent ar gyfer sefydliadau gwasanaethau ariannol yng Nghymru ac i’n helpu i gyrraedd ein hanghenion recriwtio, sy’n gallu bod yn bur arbenigol yn aml. Mae’r unigolion talentog hyn yn dod â theimlad gwirioneddol o egni a dyhead i wneud gwaith ffantastig – maen nhw’n tueddu i fynd i’r afael â phopeth sy’n dod i’w rhan ac mae’n wych eu gweld yn gweithredu damcaniaethau o’u hastudiaethau MSc mewn gwaith go iawn.”
V12 Retail Finance:
Eleni, hefyd, bydd yn V12 Retail Finance yn ymuno â’r cynllun graddedigion. Ers iddo gael ei brynu gan y Grŵp Secure Trust Bank yn 2013 mae’r cwmni, sy’n darparu credyd pwynt gwerthu i fwy na 2,000 o fân-werthwyr, wedi tyfu o gael ychydig llai na 30 o staff i fod â thîm o 190 yng Nghaerdydd.
Meddai Hannah Poulton, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu V12 Retail Finance: “Mae cymryd rhan yn y cynllun yn gyfle i ni elwa ar dalent newydd a ddaw i’n sefydliad gyda’u brwdfrydedd, agwedd bositif a phrofiad helaeth, diweddar, o astudio pynciau a allai fod o help i’n busnes. Mae’r ffaith fod y lleoliadau yn swyddi ar gyfer mathau o brosiectau’n golygu bod gennym ni rywun yn canolbwyntio ar dasg neu her benodol a fydd yn bwysig iawn ar gyfer datblygu ein busnes.
“Mae’r rhaglen hefyd yn gyfle i ni gymryd rhan mewn consortiwm gwych o gwmnïau lleol. Mae V12 yn tyfu’n gyflym ac felly mae’n wych i ni fod yn rhan o rywbeth fel hyn gyda’n cydweithwyr.”