Hayley Bateman
Hayley Bateman, 23, from Gwynedd, joined the Welsh Financial Services Graduate Programme to gain hands-on experience in the finance sector while having the opportunity to study for a Masters degree.
As part of the programme, Hayley’s placements have included underwriting at Atradius, a role within the Capital Accounting team at BBC Finance, and experience within the treasury department at GM Financial where she is currently working.
Hayley said: “A typical day for me will involve checking loan requirements and liaising with banks in the morning and a more analytical role in the afternoon including using the Bloomberg terminal to find average foreign exchange and LIBOR rates for the month.
“The great thing about this scheme is that evenings often mean an opportunity to meet up with the other graduates over a glass of wine which is a great way to finish off a busy day of hard work!
“As a result of this opportunity, I’ve been fortunate to secure a permanent role in September at KPMG in Cardiff – I’m sure the experience and knowledge gained from the Programme helped set me apart from other candidates.”
——
Hayley Bateman
Ymunodd Hayley Bateman, 23, o Wynedd, â Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru er mwyn cael profiad go iawn o’r sector ariannol tra hefyd yn manteisio ar y cyfle i astudio am radd Meistr.
Fel rhan o’r rhaglen, mae lleoliadau Hayley wedi cynnwys gweithio ym maes tanysgrifennu yn Atradius, rôl yn nhîm cyfrifo cyfalaf adran gyllid y BBC, a phrofiad o weithio yn adran drysorlys
GM Financial lle mae hi’n gweithio ar hyn o bryd.
Dywedodd Hayley: “Mae diwrnod arferol yn golygu gwirio’r gofynion ar gyfer benthyciad a thrafod gyda’r banciau yn y boreau a wedyn gwaith dadansoddi yn y prynhawn gan gynnwys defnyddio system Bloomberg i ddod o hyd i gyfraddau cyfartalog y gyfnewidfa dramor a LIBOR ar gyfer y mis.
“Y peth da am y cynllun hwn ydy bod cyfle gyda’r nosau weithiau i gyfarfod gweddill y graddedigion dros wydraid o win sy’n ffordd wych o orffen diwrnod caled o waith!
“O ganlyniad i’r cyfle hwn, dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd barhaol gyda KPMG yng Nghaerdydd o fis Medi ymlaen. Dw i’n siŵr bod y profiad a’r hyn wnes i ei ddysgu ar y Rhaglen wedi bod o fantais imi wrth gystadlu yn erbyn ymgeiswyr eraill.”